Cofnodion cryno - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel

a fideogynadledda drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Iau, 23 Ionawr 2025

Amser: 09.30 - 13.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
14787


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Andrew RT Davies AS (Cadeirydd)

Hefin David AS

Luke Fletcher AS

Samuel Kurtz AS

Jenny Rathbone AS

Tystion:

Harriet Barnes, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Nerys Bourne, Gyrfa Cymru

Jamie Cater, Make UK

Rhian Edwards, Medr (Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)

Amie Field, Gyrfa Cymru

Sharron Lusher, Coleg Sir Benfro

Lisa Mytton, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Grant Santos, Educ8

Dr Barry Walters, Colegau Cymru

Staff y Pwyllgor:

Robert Donovan (Clerc)

Nicole Haylor-Mott (Dirprwy Glerc)

Lucy Morgan (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1     Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Hannah Blythyn AS.

</AI1>

<AI2>

2       Papurau i'w nodi

2.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

</AI2>

<AI3>

2.1   Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Data (Defnydd a Mynediad)

</AI3>

<AI4>

3       Llwybrau prentisiaeth - Panel 1 - Trosolwg Strategol

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhian Edwards (Medr), Harriet Barnes (Medr), a Sharron Lusher (Cyn Gadeirydd, Bwrdd Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol).

</AI4>

<AI5>

4       Llwybrau prentisiaeth - Panel 2 - Colegau a Darparwyr Prentisiaethau

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Barry Walters (Coleg Sir Benfro a Cholegau Cymru), Lisa Mytton (Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru), a Grant Santos (Grŵp Hyfforddi Educ8).

</AI5>

<AI6>

5       Llwybrau prentisiaeth - Panel 3 - Gwybodaeth am Brentisiaethau

5.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nerys Bourne (Gyrfa Cymru), Amie Field (Gyrfa Cymru), a Jamie Cater (Make UK).

</AI6>

<AI7>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

6.1     Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

</AI7>

<AI8>

7       Llwybrau prentisiaeth: Trafod y dystiolaeth

7.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan Eitemau 3, 4 a 5.

7.2     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at dri rhanddeiliad dethol i gael rhagor o wybodaeth, ar ôl trafod pynciau a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

</AI8>

<AI9>

8       Economi werdd - Trafod yr adroddiad drafft

8.1     Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ystyried yr adroddiad drafft tan ei gyfarfod nesaf, er mwyn caniatáu rhagor o amser i drafod yr adroddiad yn llawn.

</AI9>

<AI10>

9       Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 - Trafod yr adroddiad drafft

9.1     Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac, ar ôl awgrymu un newid, penderfynodd gytuno ar yr adroddiad terfynol drwy ohebiaeth.

</AI10>

<AI11>

10    Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE - Briff

10.1   Trafododd y Pwyllgor y dull rapporteur traws-bwyllgor a argymhellir ar gyfer y gwaith ar yr Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE, a chytunodd i symud ymlaen gyda'r camau nesaf a awgrymir.

</AI11>

<AI12>

11    Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn Dilyn Storm: trafod y papur cwmpasu

11.1   Cytunodd y Pwyllgor ar y papur cwmpasu, ac awgrymodd gynnwys un tyst arall yn ystod y sesiwn dystiolaeth lafar arfaethedig.

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>